Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 15 Hydref 2020
Amser:
13. 45 -
16.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6522
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Llyr Gruffydd AS Neil Hamilton AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Jon Fudge, Llywodraeth Cymru Neil Hemington, Llywodraeth Cymru Graeme Purves, Cynghorydd Arbenigol |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) |
1 Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft: Cymru'r Dyfodol - Sesiwn friffio gyda chynghorydd arbenigol
1.1 Cafodd y Pwyllgor friff gan Graeme Purves, Cynghorydd Arbenigol i'r Pwyllgor ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft 2020-2040.
1.2 Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau a thrafodwyd materion allweddol a nodwyd yn y briff.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
2.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
2.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
3 Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft: Cymru'r Dyfodol - sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
3.1 Bu’r Aelodau yn holi’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’i swyddogion am y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft 2020-2040.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - dilyniant i sesiwn dystiolaeth 17 Medi 2020
4.2 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU
4.3 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad - Torri'r rheol 21 diwrnod a Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
4.4 Papur briffio gan Dŵr Cymru mewn perthynas â Llyn Anafon
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitem 3
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitem 3.
7 Trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni.